OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 2046 (Cy. 310) (C. 127)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru)
2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 139 o’r Ddeddf. Mae adran 139 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) drwy fewnosod adrannau 12A a 12B a gwneud diwygiadau canlyniadol eraill iddi.
Mae adran 12A newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol) ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau gwag hirdymor yn eu hardaloedd. Mae adran 12B newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd yn eu hardaloedd (gelwir yr anheddau hyn yn aml yn “ail gartrefi”). Mae uchafswm y codiad yn 100% ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor.
Dygir adran 139 o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i erthygl 2(2)). Bydd awdurdodau bilio yn gallu gwneud penderfyniad i godi swm uwch o’r dreth gyngor o dan adran 12A a 12B o Ddeddf 1992 o’r dyddiad hwnnw ond dim ond mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
Effaith erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yw, wrth ddyfarnu a yw annedd yn annedd wag hirdymor o dan adran 12A(12) o Ddeddf 1992, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gyfnod cyn 1af Ebrill 2016.
Rhaid i awdurdod bilio wneud ei ddyfarniad cyntaf o dan adran 12B o Ddeddf 1992 o leiaf blwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi. Bydd awdurdodau bilio, felly, yn gallu penderfynu codi swm uwch o’r dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi o dan adran 12B o Ddeddf 1992 ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 12A(4) a 12B(5) o Ddeddf 1992 a dyroddi canllawiau o dan adran 12A(3) a 12B(4) o Ddeddf 1992. Mae hefyd yn dwyn i rym Rhan 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1992.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau canlynol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru i’r graddau a nodir isod drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 1 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 2 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 2 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 3 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 3 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 5 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 6 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 7 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 8 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 10 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 12 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 14 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 14 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 15 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 16 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 17 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 18 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 19 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 19 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 20 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 21 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 22 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 23 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 24 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 25 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 26 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 27 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 29 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 34 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 36 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 37 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 38 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 39 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 40 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 41 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 42 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 45 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 46 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 47 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 48 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 49 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 49 (at y dibenion sy’n weddill) |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 50 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 51 i 56 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 57 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 58
|
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 59 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 60 i 63 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 64 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 65 i 71 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 72 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 88 and 74 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 75(1), (2) and (4) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 76 and 77 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 78 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 78(2) (yn rhannol) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 78 (at y dibenion sy’n weddill) |
1 Gorffennaf 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 79 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 80 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 81 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 82 i 85
|
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 86 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 87 i 94 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 95 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 95 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 96 and 97 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 98 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 99 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 100
|
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 101
|
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 102 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 105 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 106 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014 |
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill) |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 107 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 108 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 109 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 110 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Adran 111 i 128 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316)
|
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316)
|
Adran 131(4)(c) |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 137 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 140 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 144 |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316) |
Atodlen 1 |
23 Tachwedd 2015 |
2015/1826 (Cy. 266) |
Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol) |
1 Rhagfyr 2014
|
2014/3127 (Cy. 316)
|
Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill) |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Rhan 1 o Atodlen 3 |
27 Ebrill 2015 |
2015/1272 (Cy. 88) |
Rhan 2 o Atodlen 3 |
25 Chwefror 2015 |
2015/380 (Cy. 39) |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 2046 (Cy. 310) (C. 127)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru)
2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015
Gwnaed 15 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]).
Enwi a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru)
2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([2]).
Diwrnodau penodedig
2.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y diwrnod penodedig
i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym
yw’r diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn
hwn—
(a) adran 139 (swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o anheddau);
(b) Rhan 4 o Atodlen 3 (y dreth gyngor ar gyfer mathau penodol o anheddau).
(2) At ddibenion adran 12A(12) o Ddeddf 1992, y diwrnod penodedig i adran 139 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 12A o Ddeddf 1992, yw 1 Ebrill 2016([3]).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2015